Cyflwynir gan Dr Ian Thomas (YDG Cymru) 

Weithiau gall pobl sy’n ddigartref gael profiadau niweidiol eraill mewn bywyd, fel bod mewn gofal neu gyfnodau o salwch meddwl. Yn y seminar hwn, rwy’n rhoi trosolwg o astudiaethau rhyngwladol sydd wedi edrych ar y cyfuniad o brofiadau niweidiol ymhlith pobl ddigartref. Yna byddaf yn adrodd ar ganfyddiadau newydd o astudiaeth gan ddefnyddio dadansoddiad ystadegol (Dadansoddiad Dosbarth Lleyg) a gymhwyswyd i ddata arolwg, a nododd bedwar patrwm unigryw o brofiadau niweidiol ymhlith pobl ddigartref sengl ym Mhrydain Fawr.

Gan dynnu ar y canfyddiadau hyn, rwy’n myfyrio ar ddigonolrwydd y gefnogaeth bresennol i bobl ddigartref, a’r angen i ddatblygu dulliau newydd. Trwy gyfrif am batrymau profiadau anffafriol, gellir dylunio cefnogaeth fwy effeithiol ‘sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn’ – gan hwyluso allanfeydd o ddigartrefedd a chanlyniadau tai sefydlog.

 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260