Cyflwynwyd gan  Jemma Bridgeman

Ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i osod partneriaethau cymdeithasol ar sylfaen statudol yng Nghymru yw’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Mae’r ymchwil hon yn ystyried astudiaeth achos o brosiect ar y cyd sy’n anelu at greu llwybr i bobl ag euogfarnau i gael cyflogaeth ym maes adeiladu. Mae pobl a gafwyd yn euog o drosedd yn wynebu rhwystrau rhag cael eu cyflogi. Dim ond 32% o gyn-droseddwyr o oedran gweithio sydd mewn cyflogaeth o’u cymharu â thua 60% o’r boblogaeth gyffredinol. Mae ymchwil yn awgrymu mai’r model mwyaf llwyddiannus i gefnogi pobl sydd wedi cael dedfryd o garchar i gael gwaith yw yn sgîl cydweithio traws-sectoraidd rhwng llywodraethau, cyflogwyr, sefydliadau’r trydydd sector a chymunedau. Pwnc yr ymchwil hon oedd astudiaeth achos a oedd yn cynnwys sefydliadau o nifer o sectorau (y trydydd sector, cwmnïau preifat, carchardai, y llywodraeth a byd addysg) sy’n rhannu eu harbenigedd, eu gwybodaeth, eu hadnoddau a chymorth drwy grŵp llywio. Dros gyfnod o ddwy flynedd, datblygwyd a gweithredwyd 11 o brosiectau peilot i ystyried ffyrdd newydd o gefnogi pobl ag euogfarnau i gael gwaith ym maes adeiladu. Daethpwyd i’r casgliad bod cydweithio traws-sectoraidd yn fecanwaith pwerus ar gyfer y diwydiant adeiladu a all fodloni cyfrifoldebau caffael cymdeithasol a chefnogi pobl ag euogfarnau i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260