Cyflwynir gan Katy Huxley (YDG Cymru)

Mae’r seminar hwn yn cyflwyno’r Arolwg Cenedlaethol Tystiolaeth ar gyfer Cydraddoldeb (EVENS), sy’n cael ei gynnal gan y Ganolfan ar Ddeinameg Ethnigrwydd. Bydd Katy yn cyflwyno trosolwg o gasglu’r arolwg, ei gynnwys a rhagor o adnoddau. Pwrpas y seminar yw cyflwyno’r arolwg fel adnodd data agored posibl ar gyfer ymchwil i leiafrifoedd ethnig sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.