Cyflwynir gan Melanie Jones

Crynodeb: Yn y sesiwn hon bydda i’n cyflwyno canfyddiadau cynnar o ddadansoddiad o ddata yn sgîl dau arolwg cenedlaethol, yr Arolwg Chwarterol o’r Llafurlu a’r Arolwg o Gysylltiadau Cyflogaeth yn y Gweithle, gan edrych yn fanwl ar y bwlch anabledd o ran aelodaeth o undebau yn y DU. Canfuwyd bod cyflogeion anabl 4 pwynt canran (16%) yn fwy tebygol o fod yn aelodau o undeb na gweithwyr nad ydyn nhw’n anabl ar ôl rheoli ar gyfer gwahaniaethau mewn nodweddion eraill megis rhai personol yn ogystal a nodweddion sy’n gysylltiedig â swyddi a’r gweithle. Rydyn ni’n ystyried a yw hyn yn adlewyrchu gwahaniaethau yn y manteision go iawn neu dybiedig yn sgîl aelodaeth. Cadarnheir y fantais olaf, ac mae gweithwyr anabl yn mynegi canfyddiadau mwy cadarnhaol o ran effeithiolrwydd undebau na’u cymheiriaid nad ydyn nhw’n anabl. Ar y llaw arall, ni chanfuwyd tystiolaeth o wahaniaethau o ran deilliannau a gafwyd drwy fesur gwahaniaethau o ran anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig ag anabledd rhwng aelodau a pobl nad ydyn nhw’n aelodau.

 

Os ydych chi’n westai allanol, cysylltwch â ni WISERD.Events@caerdydd.ac.uk  i gadarnhau a oes lleoedd ar gael.