Trefnir y ddarlith hwyr a symposiwm undydd hon ar y cyd gan y Sefydliad Anthropolegol Brenhinol,Cymdeithas Ddysgedig Cymru,Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru.

Bydd y ddarlith gyhoeddus yn cael ei rhoi gan yr Athro Dame Marilyn Strathern, FBA a Chymrawd Anrhydeddus, Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Prifysgol Caergrawnt), ar ‘Iaith Perthynas: Ymrwymiad Anthropoleg i gymharu’

Mae’r symposiwm undydd yn edrych ar ddatblygiad anthropoleg gymdeithasol yng Nghymru o safbwyntiau ysgolheictod cenedlaethol ac ymgysylltu rhyngwladol. Mae’n dechrau wrth ystyried proto-anthropoleg Gerallt Gymro. Yna mae’n olrhain datblygiad math unigryw o anthropoleg gymdeithasol Gymreig. Yma, mae’r berthynas rhwng llên gwerin ac anthropoleg, yn enwedig mewn iaith, arferion, crefydd a cherddoriaeth, yn bwysig. Mae’r symposiwm hefyd yn edrych ar rôl ysgolheigion Cymru o’r gorffennol, megis Iorwerth C. Peate, William Jones, ac Alwyn D. Rees.

I ddilyn hyn, byddant yn ystyried anthropoleg gymdeithasol fodern a chyfoes lle defnyddir astudiaethau cymunedol i edrych ar faterion yn ymwneud ag alltudiaeth, llafur, iaith a hunaniaeth. Daw’r symposiwm i ben gyda’r prif gyflwyniad ar ‘Ieithoedd Dosbarth yn Ne Cymru Ddiwydiannol ac Ôl-ddiwydiannol’ gan yr Athro Chris Hann, Cyfarwyddwr yn Sefydliad Max Planck ar gyfer Anthropoleg Gymdeithasol, Halle, yr Almaen.

Y bwriad yw cyhoeddi papurau’r symposiwm yn Royal Anthropological Institute’s Country Series, Sean Kingston Publishing, Llundain.

Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i academyddion a’r rheiny sy’n ymddiddori yn hanes Cymru, tarddiad a datblygiad Cymru gyfoes ac astudiaethau cymunedol.