Cyflwynwyd gan Amy Sanders

Cyd-awduron: Amy Sanders, Flossie Kingsbury, Jesse Heley, Sally Power, Najia Zaidi

Nod y seminar hwn yw rhannu canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o becyn gwaith WISERD 2.3, sy’n ymwneud ag Elitiau, Nawdd a Chysylltiadau Pŵer. Mae’n cyfuno dau bapur cynhadledd y mae Amy wedi’u cyflwyno yr haf hwn. Cyflwynodd y cyntaf yng Nghynhadledd Flynyddol Pobl Lle a Pholisi a’r ail yng Nghynhadledd Flynyddol y Sector Gwirfoddol ac Ymchwil Wirfoddol. Derbyniodd yr olaf Wobr Goffa Campbell Adamson am y Papur Gorau.

RHAN 1: Bydd y rhan gyntaf yn ystyried eithrio o swyddi elitaidd yn y gymdeithas sifil ac yn archwilio arferion sefydliadol ar gyfer cynyddu cynhwysiant. Yn sail i’r fframwaith theoretig mae llenyddiaeth sydd wedi’i atgynhyrchu’n elitaidd, ac fe gydnabyddir gwahanol fathau o gyfalaf (Bourdieu 2018). Yn ogystal â strategaethau ffurfiol yn ymwneud â chydraddoldeb, mae grwpiau a eithrir yn defnyddio rhwydweithiau anffurfiol i ddatblygu meysydd cyhoeddus ar wahân (gwrth-gyhoedd) (Fraser 1990). Eto i gyd, mae hierarchaethau yn bodoli o ran anghydraddoldeb oherwydd amrywiadau o ran adnoddau neu oherwydd amlygrwydd gwleidyddol.  Mae’r llenyddiaethau hyn yn cael eu syntheseiddio trwy ofyn; i ba raddau y mae mynediad breintiedig i swyddi elitaidd o fewn cymdeithas sifil Cymru yn cael ei siapio gan rwydweithiau anffurfiol? Sut mae arferion recriwtio ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer swyddi cymdeithas sifil elitaidd yn arwain at allgáu dinesig a/neu ehangu dinesig? Mae canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg yn datgelu addasiadau sefydliadol ar gyfer cynyddu cynhwysiant trwy brosesau ffurfiol a thrafodaethau anffurfiol. Roedd cynhwysiant pobl iau yn dominyddu’r hyn a adroddwyd, tra bod cydraddoldeb rhywiol yn cael ei ddatblygu trwy fentora anffurfiol. Ceisiodd sefydliadau sicrhau cydraddoldeb o ran ‘hil’, ond roedd tueddiad i ddiriaethu (reification). Canfuwyd ymwrthedd i strategaethau cydraddoldeb ffurfiol trwy haenau sefydliadol. Nid oedd trafodaethau cynhwysol yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig eraill.

RHAN 2: Bydd yr adran hon yn ailedrych ar y syniad o atgynhyrchu elitaidd, ac yn ystyried sut mae patrymau o ran noddi yn dod i’r amlwg yng nghyd-destun ardaloedd trefol a gwledig, ac yn gorgyffwrdd ag agweddau eraill ar gyfalaf diwylliannol, economaidd, addysgol a gwleidyddol. Mae’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg yn datgelu cymhlethdodau mewn gwahanol gyd-destunau o ran sut y dyrennir pobl i swyddi a chymhellion unigolion. Mae hefyd yn codi’r cwestiwn ynghylch sut mae’r elfen elitaidd yn cael ei hatgynhyrchu ymhlith sefydliadau ac unigolion. Mae adroddiadau cyfweleion yn dangos bod gan fraint a manteision sy’n deillio o rolau uwch berthynas wrthdro, lle mae’r rhai mwyaf breintiedig yn cael eu hystyried yn bobl ag awdurdod moesol cryfach. Dangosir bod dyrannu swyddi yn adnodd a ddefnyddir i wobrwyo gwirfoddoli a chryfhau elusennau drwy hynny. Mae hyn yn ategu’r farn bod pŵer symbolaidd yn arf rhesymol sy’n galluogi elusennau i gynnal eu gwaith (Dean 2020). Fodd bynnag, mae swyddi nawdd o’r fath hefyd yn creu cyfalaf cymdeithasol ar ffurf mynediad at ffigurau dylanwadol. Mae gan y canfyddiadau hyn oblygiadau ar gyfer damcaniaethu atgynhyrchu cyfalaf ac o ran sicrhau rhagor o gydraddoldeb yn ymarferol.

Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom