Cyflwynir gan Jamie Lewis, Robert Evans and Nick Hacking.

Yn y cyflwyniad hwn, rydyn ni’n asesu tystiolaeth astudiaethau achos gan gyfeirio at y llenyddiaeth gynyddol ar golled ac atgyweirio sifig.  Ar ddechrau 2021, dechreuon ni weithio ar brosiect ‘gwyddoniaeth gymunedol’ i helpu trigolion lleol i fesur ansawdd aer yn y Barri yn annibynnol. Mae hanes hir o bryder am ansawdd aer yn y dref ers i losgydd biomas gael ei leoli yno. Maen nhw’n debygol o ddechrau defnyddio’r llosgydd yn ystod 2022. Rydyn ni wedi helpu i gyd-greu data ansawdd aer gan ddefnyddio pecynnau micro-electronig DIY a elwir yn ‘Arduino’ yn ogystal ag un uned broffesiynol. Rydyn ni wedi cyfweld â’r grŵp am eu harbenigedd a natur anghymesur perthynas rym eu brwydr 15 mlynedd gyda’r datblygwr, yr awdurdod cynllunio lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae llawer o weithgareddau’r actifyddion cymunedol hyn yn awgrymu bod angen yn lleol am waith atgyweirio sifig. Mae hyn yn arbennig o wir o ran y lefelau nodweddiadol symbolaidd o ymgysylltiad cyhoeddus y bydd y datblygwr a’r awdurdodau rheoleiddio yn eu rhoi i’r gymuned. Hyd yn hyn mae’r gymuned wedi ceisio pontio’r diffyg hwn drwy greu nifer o grwpiau gweithredu sifig. Ar hyn o bryd, ac ni waeth am yr hyn sy’n digwydd o ran y llosgydd biomas, mae eu cynlluniau’n cynnwys ehangu’r rhan y mae’r cyhoedd yn ei chymryd drwy ysgolion uwchradd lleol er mwyn ennyn diddordeb cenhedlaeth iau wrth fonitro pryderon amgylcheddol lleol.