Cyflwynwyd gan Mark Gardener

Dysgwch sut i ddefnyddio R – iaith raglennu ystadegol – yn y cwrs hyfforddi hwn i’r rhai sy’n newydd i’r rhaglen Ffynhonnell Agored bwerus a hyblyg hon. Cynlluniwyd i gwrs hyfforddi sylfaen ‘Beginning R’ eich trwytho yn yr amrywiaeth o adnoddau dadansoddol a graffigol sy’n rhan o R. Yn y cwrs hyfforddi hwn, byddwch yn:

  • dysgu sut i ddefnyddio R i fewnforio data
  • dysgu sut i ddefnyddio R i grynhoi data
  • dysgu sut i ddefnyddio R i ddelweddu data

Byddwch hefyd yn cael gwybod am ychydig o agweddau pwysig eraill ar ddefnyddio R, fel sut i reoli eitemau data a sut i ymestyn galluoedd R.

Nid oes rhaid i chi fod yn rhaglennydd i ddefnyddio R. Yn y cwrs hyfforddi hwn, byddwch yn dysgu sut i ddechrau defnyddio R ar gyfer llu o raglenni dadansoddi a delweddu data.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260