Beth y mae Cymru yn ei feddwl? Agweddau gwleidyddol a chanfyddiadau cymunedau ledled Cymru

 Mae WISERD yn eich gwahodd i’w Seminar Amser Cinio diweddaraf, a gyflwynir gan Anwen Elias (Prifysgol Aberystwyth), Mohsin Hussain (Prifysgol Abertawe), a Bettina Petersohn (Prifysgol Abertawe). Cynhelir y cyflwyniad AR-LEIN yn unig, ddydd Mawrth 9 Mehefin rhwng 12pm a 1pm.  Os hoffech chi ymuno, gofyn unrhyw gwestiynau, neu wneud ymholiadau ynglŷn â chynnal eich seminar amser cinio eich hun; cysylltwch â wiserd.events@caerdydd.ac.uk.

 

Beth y mae Cymru yn ei feddwl? Agweddau gwleidyddol a chanfyddiadau cymunedau ledled Cymru

Un arloesedd yn sgil Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yw casglu data am agweddau gwleidyddol gan ddefnyddio arolygon ar y cyd â sgyrsiau grŵp ffocws. Rydym yn archwilio beth yw profiad unigolion ledled Cymru o’u hardal leol a’u cymunedau, beth y maen nhw’n ei nodi fel yr heriau pwysicaf, a sut y maen nhw’n gwerthuso galluoedd pleidiau i ymateb i’r heriau hynny. Mae ein dadansoddiad yn datgelu bod unigolion yn gyffredinol fodlon â’u bywyd a’r lle maen nhw’n byw ynddo, ond eu bod nhw’n teimlo bod y sefyllfa economaidd wedi gwaethygu. O ran gwasanaethau cyhoeddus, mae’r dadansoddiad o’n data cyn yr etholiad yn datgelu anghydraddoldebau daearyddol sylweddol o ran canfyddiadau o argaeledd tai fforddiadwy, swyddi â chyflog da, ac ansawdd gwasanaethau iechyd. Mae’r data ansoddol o’r grwpiau ffocws yn dangos ymhellach yr amrywiad lleol o ran mynediad at seilwaith allweddol megis dŵr neu drafnidiaeth gyhoeddus sy’n peri heriau i unrhyw lywodraeth newydd o ran datblygu datrysiadau polisi sy’n seiliedig ar le.