O 1 tan 7 Tachwedd – bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Hawlio Heddwch, ein Gŵyl Ymchwil eleni.
Fel rhan o raglen yr Ŵyl, mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru wedi trefnu’r digwyddiad trafod canlynol:
Gadewch i ni osgoi’r jargon a siarad â’n gilydd. Ymunwch ag arweinwyr cymunedol ac ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth mewn sgwrs sy’n ystyried mentrau i oresgyn rhaniadau a phegynnu mewn cymunedau a gwrth eithafiaeth. Sut gall hyn fod yn berthnasol i Ganolbarth Cymru? Gadewch i ni rannu beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Cawn gyfle i glywed wrth:
James Austin – Jo Cox Foundation, Cydlynydd, ‘Great Get Together’
Sarah Bowen – Swyddog Cydlyniant Cymunedol, Canolbarth a De-orllewin Cymru
Nick Olsen – Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol, Caerdydd
Mewn sgwrs â’r Athro Michael Woods
Mae’r tocynnau am ddim ac mae croeso cynnes i bawb.