Cyflwynwyd gan Rhian Powell, Esther Muddiman & Chris Taylor (Prifysgol Caerdydd)

Bydd y drafodaeth bord gron hon, trwy wahoddiad yn unig, yn trin a thrafod cynnydd a rhagolygon dinasoedd sydd wedi cychwyn ar y llwybr o ddod yn ‘Ddinas Dda i Blant’ a gydnabyddir gan UNICEF.  Mae’r fenter Dinas sy’n Dda i Blant wedi’i chynllunio i greu cymunedau lle mae plant yn cael dweud eu dweud am y penderfyniadau, y gwasanaethau a’r gofodau lleol sy’n llywio eu bywydau.

Mae sawl dinas yn y DU newydd ddechrau ar y daith hon ac mae’r drafodaeth bord gron hon yn gyfle amserol i rannu profiadau ac archwilio’r hyn sy’n digwydd mewn dinasoedd yn y DU ac mewn mannau eraill.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) sydd wedi’i leoli yn SPARK |SBARC ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym wedi bod yn ymchwilio i’r cynllun Dinasoedd sy’n Dda i Blant mewn gwahanol gyd-destunau cenedlaethol gan gynnwys y DU, y UDA, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, a’r Swistir.

Bydd y drafodaeth bord gron yn cynnwys cyflwyniadau gan randdeiliaid allweddol ac ymchwilwyr sy’n gweithio yn y maes hwn ac yn ymdrin â’r materion canlynol:

  •  Beth yw nodau amrywiol y Dinasoedd sy’n Dda i Blant?
  •  Beth yw’r rhwystrau sy’n atal cynnydd tuag at y nodau hyn?
  •   Pa wersi allwn ni eu dysgu o ddinasoedd a chyd-destunau eraill?

Bydd pob CFC yn cael ei wahodd i siarad am gynnydd, heriau a chyfleoedd y neu dinasoedd/cyd-destun penodol trwy gydol y dydd.