Hoffai WISERD eich gwahodd i’r Seminar Amser Cinio ddiweddaraf, a gyflwynir gan Sophie Bartlett (YDG Cymru / Prifysgol Caerdydd). Cynhelir y cyflwyniad ddydd Gwener 21 Tachwedd, 12:00 – 13:00. Cynhelir y seminar hon wyneb yn wyneb (yn adeilad sbarc|spark) ac ar-lein, felly mae croeso i chi ymuno â ni o bell os na allwch chi fod yno’n bersonol. Os hoffech chi ymuno, holi unrhyw gwestiynau, neu wneud ymholiadau ynglŷn â chynnal eich seminar amser cinio eich hun; cysylltwch â wiserd.events@caerdydd.ac.uk
Dewisiadau a Chyfleoedd: llwybrau addysg ôl-16 mewn bioleg, cemeg a ffiseg yng Nghymru
Mae’r seminar hwn yn cyflwyno canfyddiadau dwy astudiaeth ar raddfa fawr sy’n trin a thrafod llwybrau disgyblion drwy addysg ôl-16 gynnar yng Nghymru, gan dynnu ar ddata gweinyddol o garfan o 8,010 o ddisgyblion a gwblhaodd eu harholiadau TGAU yn 2016/17. Gan ddefnyddio modelau atchwel logistaidd, mae’r astudiaethau’n ymchwilio i ragfynegyddion a phatrymau cynnydd a chyrhaeddiad mewn pynciau gwyddoniaeth yng nghyd-destun nodedig Cymru; cenedl ddwyieithog sy’n perfformio islaw sgorau cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn y Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol (PISA), hyd yn oed ar ôl ystyried ffactorau economaidd-gymdeithasol.
Bydd Rhan 1 yn edrych ar ffactorau sy’n llywio dewisiadau disgyblion i astudio bioleg, cemeg a ffiseg ar lefel UG, gan ganolbwyntio ar nodweddion ar lefel y disgybl (cyrhaeddiad blaenorol mewn mathemateg, gwyddoniaeth a Saesneg/Cymraeg, rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig, a chyfranogiad mewn gwyddoniaeth driphlyg) a ffactorau ar lefel yr ysgol (cyfrwng iaith a daearyddiaeth). Bydd Rhan 2 yn trafod sut mae’r un ffactorau hyn yn rhagweld perfformiad ar lefel UG yn y disgyblaethau gwyddonol a’r dyniaethau.
Gyda’i gilydd, mae’r astudiaethau’n tynnu sylw at sut mae ffactorau pwnc-benodol a chyd-destunol yn rhyngweithio i ddylanwadu ar bwy sy’n parhau â gwyddoniaeth ac yn llwyddo ynddi y tu hwnt i addysg orfodol. Mae canfyddiadau hefyd yn datgelu gwerth cyrhaeddiad blaenorol mewn gwyddoniaeth ar gyfer llwyddo mewn pynciau ôl-16 ehangach. Drwy gyfuno gwybodaeth am ddewis a chyflawniad, mae’r astudiaethau’n cynnig dealltwriaeth fanwl o degwch, dwyieithrwydd, a chynnydd mewn pynciau mewn addysg ôl-orfodol.