A group of standing actors in a room

Ymunwch â ni ar gyfer cyfarfod nesaf y Rhwydwaith Ymchwil Cyfranogiad Diwylliannol: Perfformio bob dydd: pwer theatr.

Y thema y tro hwn yw y Theatr a sut y gall gyfrannu at gyfnewid gwybodaeth, tystiolaeth, lles, diwylliant a chymdeithas sifil. Bydd gennym nifer o gwmnïau theatr yn bresennol i rannu eu gwaith ac ysgogi trafodaeth a dadl. Fel arfer, bydd croeso i unrhyw un sydd â syniadau ymchwil i’w rhannu gyda’r grŵp hefyd.

Bydd coffi ar gael am 10am, gyda’r cyfarfod yn dechrau am 10:15. Daw i ben an 1pm, a darperir cinio wedi hynny.