Bydd yr ail Symposiwm ar Fargeinion Dinesig yn ystyried darpariaeth y pedair Bargen Ddinesig a’r Partneriaethau Datblygu yng Nghymru; yn rhanbarth Dinas Caerdydd; Bae Abertawe; Canolbarth Cymru a gogledd Cymru. Bydd y sesiynau’n edrych ar ddyheadau’r Bargeinion Ddinesig hyn a bargeinion twf, gan gynnwys papurau a thrafodaethau ynghylch eu llywodraethu a’u dyheadau o ran tyfu. Bydd hyn yng nghyd-destun strategaeth datblygu economaidd yng Nghymru.

Mae’r digwyddiad ar gyfer gweneuthurwyr polisi, y rhai sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol, busnesau ac ynchwilwyr academaidd ac fe’i trefnwyd ar y cyd rhwng Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD).

 

Rhaglen

09:00 Cofestru, te a choffi
09:30 Croeso a Chyflwyniadau gan Dr Aled Eirug (Academi Morgan) – “Beth yw Academi Morgan?”
09:45 Yr Athro David Blackaby (WISERD) – “Beth yw WISERD?”
10:00 Prif Siaradwr: Yr Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd – “Llywodraethu Bargeinion Dinesig”
10:30 Prif Siaradwr: Yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Swydd Stafford – “Terfynau Dinas-Ranbarth”
11:00 Prif Siaradwr: Andrew Carter, Prif Weithredwr, Centre for Cities – “Effaith Bargeinion Dinesig”
11:30 Prif Siaradwr: Kellie Beirne, Cyfarwyddwr, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
12:00 Chinio
13:00 Prif Siaradwr: Rob Stewart, Cadeirydd, Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe
13:30 Prif Siaradwr: Dyfrig Siencyn, Dirprwy-gadeirydd, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
14:00 Prif Siaradwr: Ellen ap Gwynn, Bargen Twf Canolbarth Cymru
14:30 Panel Holi ac Ateb (Siaradwyr Gwadd) – Dan gadeiryddiaeth Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg
15:30 Sylwadau i gloi, gair o ddiolch, a’r camau nesaf – Dr Aled Eiurg