Sut i gyhoeddi eich gwaith mewn cyfnodolyn cydnabyddedig? Beth mae’n ei gynnwys, a pam mae’n bwysig? Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sydd am ddechrau (neu newydd ddechrau) ysgrifennu ar sail ymchwil i’w gyhoeddi yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae’r prif bwyslais ar gael gwaith gwyddorau cymdeithasol wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolion gyda chanolwyr (er byddwn hefyd yn ystyried sut mae ysgrifennu o’r fath yn wahanol i’r hyn a anelir at gynulleidfaoedd eraill a byddwn yn sôn am ffyrdd eraill posibl o gyfathrebu canlyniadau ymchwil). Rydym yn edrych ar enghreifftiau o bolisi cyfnodolion, sut mae golygyddion yn gweithio, a’r theori a’r ymarfer sy’n sail ar gyfer adolygu gan gymheiriaid. Mae’r pwyslais bob amser ar y camau ymarferol y gellir eu cymryd wrth bob cam o’r broses. Mae’r gweithdy yn cynnwys cyflwyniad, gweithgaredd, arweiniad cam wrth gam, trafodaeth a dadansoddiad o’r enghreifftiau a ddarperir.
Bydd y gweithdy o dan arweiniad David James, Athro Cymdeithaseg ac Addysg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, a than yn ddiweddar, Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Ddoethurol ESRC Cymru. Mae hefyd yn olygydd British Journal of Sociology of Education, a chadeirydd is-banel Addysg REF 2021. Mae gan David lawer o brofiad perthnasol (fel awdur a derbynnydd penderfyniadau ‘gwrthod’ yn ogystal â phenderfyniadau ‘derbyn’). Mae’n ddyfarnwr rheolaidd ar gyfer ystod o gyfnodolion, ac mae’n olygydd cylchgrawn rhyngwladol uchel ei barch, sef y British Journal of Sociology of Education.