Cyflwynwyd gan Ed Janes

Yn ystod y seminar hon bydda i’n gwneud cyflwyniad ar gydran feintiol fy noethuriaeth sy’n defnyddio dulliau cymysg, sef Caring Lives: Beth sydd ei angen ar blant a phobl ifanc sy’n gofalu am aelodau eraill o’r teulu i ffynnu? Nod yr astudiaeth oedd ystyried o’r newydd heriau’r ymchwil a wnaed yn gynnar ynghylch (1) sut i adnabod grŵp sydd yn aml yn amharod i gymryd rhan mewn gwasanaethau, a recriwtio o’u plith a (2) diffyg data meintiol ar raddfa fawr i’w ddadansoddi. Roedd y ddwy elfen hyn wedi arwain at y canfyddiad bod gofalwyr ifanc yn grŵp bach o blant y mae ganddyn nhw gryn nifer o gyfrifoldebau ac effeithiau negyddol yn bennaf, ond mae cynnydd diweddar yn nifer yr amcangyfrifon o gyffredinrwydd yn dangos bod angen ymchwilio i ofalwyr ifanc ar sail poblogaeth fwy ei maint.

Defnyddiwyd modelu hafaliadau strwythurol i astudio tonnau lluosog o ddata LSYPE (Longitudinal Study of Young People in England) gan gynnwys y newidynnau o ran statws gofalwyr ifanc, nifer y cyfrifoldebau, iechyd meddwl a gwybodaeth ddemograffig. Roedd y modelu yn cymharu iechyd meddwl gofalwyr ifanc â phlant heb gyfrifoldebau gofalu, a chafwyd dadansoddiad ychwanegol o’r rheini â mwy o gyfrifoldebau o’u cymharu â phob ymatebwr arall.

Amrywiai’r effaith ar iechyd meddwl gan ddibynnu ar hyd y rôl ofalu ac roedd effeithiau tymor byr gofalu yn rhai ffiniol ond roedd eu hiechyd meddwl yn dirywio dros amser o’i gymharu â gofalwyr nad ydyn nhw’n ifanc. Yn benodol, roedd gan y rheini sydd â mwy o gyfrifoldebau well iechyd meddwl yn y tymor byr na’u cyfoedion, er bod y dirywiad dros amser yn fwy.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260