Rhwydwaith Ymchwil ar Dai Cymru WISERD, Canolfan Gydweithredol Tystiolaeth Tai’r DU a Shelter Cymru sy’n cynnal y gynhadledd ar y cyd.

Ynglŷn â’r gynhadledd

Mae Cynhadledd Ymchwil ar Dai Cymru ar 19 Rhagfyr 2022 yn gyfle rannu tystiolaeth ymchwil a myfyrio ar faterion tai yn y Gymru sydd ohoni. Bydd y gynhadledd yn cynnwys ystod hynod amrywiol o gyflwyniadau ar bynciau gan gynnwys: profiadau’r sector rhentu preifat; atal troi allan; digartrefedd pobl ifanc, teulu a digartrefedd LHDTC+; dulliau adeiladu tai cymdeithasol cynaliadwy; rheoleiddio tai cymdeithasol; effeithiau cymorth ariannol ar aelwydydd incwm isel a phobl sy’n profi digartrefedd; hawl i dai digonol; ac effeithiau’r pandemig. Bydd cyflwyniadau llawn hefyd ar:

  • Goblygiadau i gynaliadwyedd oherwydd argyfwng fforddiadwyedd tai’r DU

Dr Sophus zu Ermgassen, Prifysgol Caint

  • Trafferthion y rheng flaen: profiadau gweithwyr digartrefedd a chymorth tai ar y rheng flaen

Katie Dalton, Cymorth Cymru

  • Rheoli rhent

Yr Athro Ken Gibb, Prifysgol Glasgow

  • Gwerth cymdeithasol a chreu lleoedd

Yr Athro Flora Samuel, Prifysgol Reading
 

Llyfryn Haniaethol (Saesneg yn unig)


 

Ydych chi eisiau cyflwyno eich ymchwil?

Gwahoddir ymchwilwyr i gyflwyno teitl a chrynodeb am unrhyw bwnc tai fydd yn holi ynghylch polisïau ac arferion tai yng Nghymru, yn eu llywio neu’n eu cefnogi. Rydyn ni’n croesawu ymchwil a gynhelir y tu allan i Gymru ond dylai daflu goleuni ar bolisïau ac arferion yng Nghymru. Dylid cyflwyno teitlau a chrynodebau drwy ebost i MackieP@caerdydd.ac.uk erbyn 30 Medi 2022 ac ni ddylent fod yn hwy na 250 o eiriau. Caiff penderfyniadau ynglŷn â chrynodebau eu gwneud yn brydlon.

Ydych chi eisiau cymryd rhan yn y gynhadledd?

Bydd y gynhadledd hon yn ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol yr awdurdodau lleol, cynrychiolwyr cymdeithasau tai a sefydliadau’r trydydd sector, ymchwilwyr gwleidyddol, academyddion a myfyrwyr ym maes tai a’r meysydd cysylltiedig. Gyda chymorth Wales and West Housing, mae’n rhad ac am ddim ac fe fydd cinio yn cael ei ddarparu.

Mae angen cofrestru ar gyfer y digwyddiad a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Rydyn ni’n rhagweld y bydd y gynhadledd yn llawn felly cadwch eich lle cyn gynted â phosibl.

 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260