Mae’r cwrs hwn ar gyfer dadansoddwyr y mae angen iddynt wneud penderfyniadau ar sail data. Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai nad oes ganddynt fawr o brofiad o ddefnyddio R, sef: yr iaith raglennu ystadegol. Mae R yn iaith raglennu ffynhonnell agored bwerus sy’n cael ei defnyddio’n eang ar gyfer gwaith dadansoddi o bob math. Mae gan R hefyd alluoedd graffigol helaeth.

Mae’r cwrs yn cyfuno dwy elfen: delweddu data (graffeg), a phrofi damcaniaethau’n ystadegol (y broses gwneud penderfyniadau).

Mae’r rhan delweddu data wedi’i chynllunio i ymdrin â graffeg amrywiol, gan gynnwys:

  • Histogramau
  • Plotiau dwysedd
  • Plotiau cwantil-cwantil
  • Siartiau bar
    • Siartiau cyfres sengl
    • Siartiau cyfresi lluosog (wedi’u stacio a heb eu stacio)
  • Plotiau blwch-wisgeren
  • Plotiau gwasgariad
    • Llinellau ffit orau
    • Plotiau gwasgariad aml-amrywedd
  • Graffeg sy’n allforio

Mae’r rhan profi damcaniaethau wedi’i chynllunio i roi sylw i’r adnoddau dadansoddi sylfaenol ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n sylfaen i waith dadansoddi ystadegol. Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Profi sut mae data’n cael ei ddosbarthu (dosbarthu arferol)
  • Profion gwahaniaethau:
    • Prawf t ar gyfer data sy’n cael ei ddosbarthu fel arfer
    • Prawf U ar gyfer data amharametrig
  • Cyfatebiaeth
  • Profion cyswllt:
    • Prawf cyswllt chi (x) sgwâr
    • Prawf llwyddiant y ffit
  • Dadansoddi amrywiant ar gyfer profi samplau lluosog
  • Modelu atchweliad

Pwy a allai elwa o’r cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl y mae angen iddynt drin a thrafod data a gwneud penderfyniadau ar sail y data hwnnw. Byddai rhywfaint o wybodaeth am R yn ddefnyddiol, ond nid oes angen gwybodaeth arbennig am ystadegau.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260