Arweiniodd etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026 at weddnewid tirwedd etholiadol a gwleidyddol Cymru. Ymunwch â ni i gael y data a’r dadansoddiadau diweddaraf gan arbenigwyr ym Mhrifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Chaerdydd.
Bydd Dr. Anwen Elias, Dr. Mohsin Hussain a Dr. Bettina Petersohn o Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yn cyflwyno data barn y cyhoedd o’r cyfnod cyn, yn ystod ac ar ôl yr etholiad, i helpu i ddeall sut y pleidleisiodd Cymru ar 7fed o Fai. Byddan nhw’n archwilio agweddau tuag at ddemocratiaeth a’r diwygiadau i sut mae Senedd Cymru yn cael ei hethol, a’r materion allweddol oedd yn bwysig yn yr etholiad hwn a sut y gwnaeth hyn lywio dewisiadau pleidleiswyr. Byddant hefyd yn cyflwyno data am agweddau pobl tuag at y lleoedd a’r cymunedau lle maent yn byw, cwestiynau a gafodd eu gofyn am y tro cyntaf yn Astudiaeth Etholiad Cymru 2026.
Bydd Dr Keighley Perkins a Dr Maxwell Modell yn rhannu mewnwelediadau o adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd sy’n archwilio sylw cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i Etholiad Senedd Cymru 2026. Byddant yn dwyn ynghyd dadansoddiad manwl o raglenni newyddion teledu, sylw ar-lein ac allbwn cyfryngau cymdeithasol i esbonio sut y gwnaeth darlledwyr Cymru ymateb i’r her o adrodd ar etholiad gyda chwe phlaid fwy, gan esbonio system etholiadol newydd a gweithredu eu strategaeth sylw etholiadol integredig cwbl ddigidol gyntaf. Yn y pen draw, byddant yn gofyn a yw’n bryd ailystyried y rheolau y mae darlledwyr yn eu dilyn yn ystod etholiadau er mwyn addasu i system wleidyddol amlbleidiol sy’n gynyddol ddarniog.