Cyflwyniad gan Helen Blakely a Jean Jenkins.

Mae’r seminar hon yn taflu goleuni ar realiti gofal di-dâl yn ein cymdeithas gyfoes. Gan ddefnyddio gwahanol gysyniadau o waith, rydyn ni’n trin a thrafod y gwerth cymdeithasol a roddir ar y math hwn o waith cudd y mae ansicrwydd, ansefydlogrwydd a chaledi economaidd yn rhan annatod ohono.

I ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom.