Cyflwynir gan Jemma Bridgeman (Prifysgol Caerdydd):

Mae caffael cymdeithasol yn cyfeirio at gynhyrchu gwerth cymdeithasol trwy brynu nwyddau a gwasanaethau. Mae ffocws cynyddol ar gaffael cymdeithasol yng Nghymru, yn arbennig gyda Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sydd â’r nod o wella llesiant pobl Cymru drwy gaffael cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol. Mae’r ymchwil hwn yn cyflwyno dadansoddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) o raglen gyflogaeth a ddatblygwyd yng Nghymru i leihau’r risg o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Prin yw’r ymchwil ar ddylunio a gwerthuso caffael cymdeithasol. Mae’r diffyg tystiolaeth a damcaniaeth yn gysylltiedig â diffyg arbenigedd mewn mesur effaith gymdeithasol, a gall hyn danseilio cyfreithlondeb caffael cymdeithasol fel ymyriad polisi effeithiol i fynd i’r afael ag anfantais. Defnyddir y Dull Grymuso Galluoedd fel y fframwaith cysyniadol, wedi’i gyfuno â methodoleg SROI, i archwilio’r gwerth cymdeithasol a grëwyd gan rhaglen yr astudiaeth achos ac i ba raddau y mae wedi adeiladu galluoedd yn y bobl ifanc a’u hatal rhag profi digartrefedd yn y dyfodol.

Deuir i’r casgliad, er bod cyfyngiadau gyda’r dull gweithredu, bod cymhwyso SROI i’r rhaglen astudiaeth achos nid yn unig yn caniatáu i’r effeithiau cymdeithasol a grëwyd gael eu diffinio a’u mesur ond hefyd wedi dangos y gwerth economaidd ehangach y gellir ei gynhyrchu drwy fuddsoddi yn y rhaglen hon.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.