Digwyddiad hystings ‘Etholiad 24: Beth sydd yn y Fantol i Gymru’, gyda Carolyn Harris Aelod Seneddol (Llafur), Tom Giffard Aelod o’r Senedd (Ceidwadwyr), ac Andrew Jenkins (ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghastell-nedd a Dwyrain Abertawe).
Caiff y digwyddiad hwn ei gefnogi gan Rwydwaith Ymchwil Gwleidyddiaeth a Llywodraethu WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru), dan gadeiryddiaeth arweinydd y Rhwydwaith, Dr Matthew Wall. Mae’n rhan o gyfres ‘Etholiad 24’ Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, a drefnir fel rhan o’u Hymgyrch dros y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hefyd yn cael ei noddi gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe. Cynhelir y digwyddiad yn Theatr Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe ar 9 Chwefror rhwng 19:00 a 21:00.