
Mae dynion ifanc, gwrywdod, addysg a chyflogaeth yn ennill sylw cymdeithasol cynyddol.
Mae llyfr newydd amserol Dr Richard Gater, The 21st Century Ladz: Continuity and Changes among Marginalised Young Men from the South Wales Valleys yn trin a thrafod y themâu hyn drwy ymchwil fanwl yng Nghymoedd De Cymru, gan gynnig cipolwg newydd ar sut mae dynion ifanc yn llywio hunaniaeth a newid.
Dywedodd yr Athro Steven Roberts fod y llyfr yn “bwysig, diddorol ac yn ysgogi’r meddwl”. Mae’r llyfr yn taflu goleuni ar brofiadau byw dynion ifanc mewn byd sy’n newid.
Ymunwch â ni i ddathlu lansiad y llyfr, a fydd yn dechrau gyda mewnwelediad a chyd-destun gan Dr Alex Blower, sylfaenydd y mudiad Boys’ Impact. Dilynir hyn gan i Richard a Dr Dan Evans, awdur A Nation of Shopkeepers: The Unstoppable Rise of the Petite Bourgeoisie, gymryd rhan mewn trafodaeth yn arddull cwrdd â’r awdur. Byddan nhw’n trafod adrannau o’r llyfr ac yn gwahodd y gynulleidfa i ymuno â’r sgwrs.