Mae’r gweithdy hwn yn tynnu sylw at rai dulliau creadigol arloesol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan ymchwilwyr ymfudo yng Nghymru. Mae’r gweithdy’n gyfle i glywed gan dri academydd sy’n defnyddio dulliau creadigol amrywiol i ymchwilio i wahanol agweddau ar fudo, ac i drafod y cyfleoedd a’r heriau o fabwysiadu’r dulliau hyn. Nod y gweithdy yw rhannu arfer da a myfyrio ar brofiad yr ymchwilwyr o ddefnyddio dulliau creadigol.

Siaradwyr

Dr Eleanor Cotterill (Prifysgol Caerdydd)
Dr Barrie Llewelyn (Prifysgol De Cymru)
Laura Shobiye (Prifysgol Caerdydd)

Mae’r gweithdy’n briodol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dulliau creadigol mewn ymchwil mudo, ac mae wedi’i dargedu’n benodol at ymchwilwyr gyrfa cynnar, ymchwilwyr newydd, neu i’r rhai a hoffai ddysgu mwy am ddefnyddio dulliau creadigol yn eu hymchwil.