Cyflwynwyd gan Dr Rhian Powell a Dr Esther Muddiman.

Mae sylw cynyddol yn cael ei roi i farn plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â mannau cyhoeddus. Yn y seminar hon, rydym yn trin a thrafod sut mae ymgyrchwyr a thrigolion sy’n oedolion yn galw ar blant ac yn cyfeirio at blentyndod wrth gyflwyno dadleuon ynghylch mannau sy’n ysgogi anghytundeb mewn dinas. I wneud hyn, byddwn yn edrych ar enghreifftiau lleol o sut mae’r tensiynau hyn yn dod i’r amlwg ‘ar lawr gwlad’ mewn mannau o’r fath yn ninas Caerdydd. Rhoddir sylw arbennig i safle’r Dolydd Gogleddol, man gwyrdd sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i leoli ysbyty newydd Felindre yno. Dyma ddatblygiad uchel ei broffil a dadleuol iawn, lle mae naratifau am hawliau plant, cenedlaethau’r dyfodol a chyfiawnder rhwng cenedlaethau wedi’u defnyddio mewn ffyrdd gwahanol a gwrthgyferbyniol gan wahanol randdeiliaid. Drwy adroddiadau’r rhai dan sylw, rydym yn edrych ar gwestiynau fel: Sut mae oedolion yn galw ar blant ac yn cyfeirio at blentyndod mewn dadleuon gwahanol ynghylch y defnydd o fannau cyhoeddus? Pa blant y maent yn galw arnynt yn y dadleuon hyn? Sut mae’r galwadau hyn yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o hawliau ar sail oed a chyfiawnder rhwng cenedlaethau?

Mae’r seminar hwn yn tynnu casgliadau o gyfweliadau ansoddol â phobl allweddol a oedd yn rhan o’r ddadl ynghylch datblygiad y Dolydd Gogleddol, gan gynnwys sefydliadau, ymgyrchwyr a thrigolion lleol. Mae ein casgliadau’n dangos ym mha ffyrdd gwahanol a phwerus y mae pobl yn nodi ac yn galw ar blant i ennyn cefnogaeth. Wrth wneud hynny, rydym yn gwneud y syniad o hawliau ar sail oed yn broblem, drwy ddangos y gellir galw ar blant a chyfeirio at blentyndod mewn ffyrdd gwahanol a gwrthgyferbyniol.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260