Cyflwynir gan Rhys Davies

Mae’r cyflwyniad hwn yn edrych ar ddarpariaeth cyngor gyrfaol ymhlith 2 garfan o blant Cyfnod Allweddol 4 yng Nghymru a’i heffaith ar bontio disgyblion Blwyddyn 11 i Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET). Mae dadansoddiad yn dangos bod cael sesiwn arweiniad gyrfaoedd un i un ym Mlwyddyn 10 neu 11 yn gysylltiedig â chynnydd yng nghyfran y disgyblion sy’n mynd ymlaen i PCET.  Mae hwn yn fwy amlwg ymhlith y rhai sydd â’r lefelau isaf o gyrhaeddiad addysgol a’r rhai sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim.  Mae’r canlyniadau’n tynnu sylw at bwysigrwydd blaenoriaethu cefnogaeth ymhlith y rhai sydd fwyaf mewn perygl o golli diddordeb a gadael y system addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

I ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom