Dan arweiniad Anwen Elias, Richard Jones ac Elin Royles roedd y stondin yn arddangos canfyddiadau o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Arddangoswyd ffotograffau o brosiect ymchwil sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn teimlo am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia, o’r enw ‘Darlunio’r Dyfodol’.
Maent yn arwain dau drafodaeth panel:
- Sgyrsiau creadigol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru – sut all dulliau gweledol gyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a’r gwersi o Gymru ar gyfer y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. (Digwyddiad Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd).
- Wedi’r Etholiad Cyffredinol – Dadansoddi canlyniadau a goblygiadau’r Etholiad Cyffredinol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru a thu hwnt
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.