Bydd y seminar amser cinio WISERD hon yn cael ei chyflwyno wyneb yn wyneb gan Pauline Jerrentrup (LSE) ar y cyd ag Ysgol Busnes Caerdydd. Os byddwch chi’n gallu dod i’r digwyddiad, mae croeso i chi ddod â’ch cinio gyda chi i adeilad Sbarc. Bydd te, coffi a phice ar y maen ar gael hefyd.
Os nad ydych chi’n gweithio yn adeilad Sbarc ac yn bwriadu dod i’r digwyddiad, anfonwch e-bost flackb@caerdydd.ac.uk neu wiserd.events@caerdydd.ac.uk, er mwyn i ni allu trefnu pàs ymwelydd ar eich cyfer. Gallwch chi hefyd ymuno â’r seminar hon ar-lein.
Cytundebau Gorfodadwy rhwng Brandiau ac Undebau: Addewidion, Effaith a Heriau wrth Amddiffyn Hawliau Gweithwyr mewn Cadwyni Cyflenwi Byd-eang
Mae diffyg hawliau gweithwyr yn parhau i fod yn rhemp mewn cadwyni cyflenwi yn fyd-eang, lle mae brandiau’r Gorllewin yn defnyddio llafur rhad mewn economïau a reoleiddir yn wael, yn aml yn y “de byd-eang.” Mae ymdrechion brandiau i wella hawliau gweithwyr, drwy Godau Ymddygiad ac archwilio, wedi methu diogelu gweithwyr dro ar ôl tro. I ymateb i’r broblem hon, mae cytundebau gorfodadwy (EBAs) rhwng undebau (neu sefydliadau gweithwyr eraill) a brandiau wedi dod i’r amlwg, gan addo cynnig atebion mwy effeithiol er mwyn gwella hawliau gweithwyr.
Er bod rhai yn dathlu’r cytundebau hyn ac yn eu hystyried i fod yn “garreg filltir” (GLJ, 2022) neu’n “baradeim amgen o ran cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol” (Mieres & Mcgrath, 2021: 633), prin iawn yw’r ymchwil empirig ar y graddau y cedwir i’r cytundebau hyn.
Mae fy ymchwil yn defnyddio cyfweliadau a gwaith maes a gynhaliwyd mewn dau EBA diweddar gyda’r bwriad o fynd i’r afael â thrais ac aflonyddu ar sail rhywedd (GBVH) mewn ffatrïoedd dillad: Cytundeb Dindigul (gan gynnwys H&M, PVH a GAP ac undeb lleol yn Tamil Nadu, India) a Chytundeb Lesotho (gan gynnwys Kontoor Brands, Levi’s a Children’s Place ac undebau a mudiadau lleol yn Lesotho).
Drwy ymchwilio i’r ffordd y mae’r cytundebau hyn wedi’u rhoi ar waith, eu canlyniadau a’u cyfyngiadau, byddaf yn trin a thrafod potensial cytundebau EBA a’r heriau sydd ynghlwm â nhw, fel ffyrdd o ddiogelu hawliau gweithwyr yn ystyrlon yng nghyd-destun y gadwyn gyflenwi fyd-eang.
Ymgeisydd PhD yw Pauline Jerrentrup, sy’n rhan o grŵp Cysylltiadau Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol (ERHR) yn Adran Reolaeth Ysgol Economeg Llundain (LSE). Mae ymchwil Pauline wedi’i sbarduno gan yr ymgais i ganfod atebion cynaliadwy i ddrwg arferion o ran hawliau gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi yn fyd-eang.
Mae ei hymchwil PhD yn canolbwyntio ar gytundebau gorfodadwy rhwng brandiau ac undebau, yn enwedig Cytundeb Dindigul (sy’n cynnwys H&M, PVH, GAP, ac undeb lleol yn Tamil Nadu, India) a Chytundeb Lesotho (gyda Kontoor Brands, Levi’s, ac undebau lleol yn Lesotho), sydd ill dau yn mynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd mewn ffatrïoedd dillad.
Gwnaeth Pauline Gymrodoriaeth Wadd PhD yn ILR Prifysgol Cornell yn 2023. Mae hi hefyd yn ymgynghorydd ymchwil ac mae ganddi brofiad blaenorol ym maes ymgynghori ar strategaeth cynaliadwyedd yn yr Almaen.
Yn ddiweddar, mae Pauline wedi cyhoeddi adroddiad ar Gytundeb Dindigul. Bydd cyflwyniad Pauline yn mynd y tu hwnt i gynnwys yr adroddiad hwn.