
Sut mae gwneud gwahaniaeth?
Bob blwyddyn mae Cynghrair Economi Sylfaenol Cymru yn cynnal cynhadledd wyneb yn wyneb i lunwyr polisïau, ymarferwyr ac ymgyrchwyr cymunedol. Cynhelir y gynhadledd eleni ddydd Iau 19 Mawrth 2026 yn sbarc|spark yng Nghaerdydd.
Ein cwestiwn yw Sut mae wneud gwahaniaeth? a’n cred yw bod angen ffyrdd newydd o weithio arnom ni nawr. Byddwn yn ymdrin â’r thema hon yn bennaf mewn tri maes sylfaenol, sef tai, bwyd a’r economi ymwelwyr. Bydd grwpiau gweithredol a bydd y sesiynau trafod yn cael eu hagor gan ein panelwyr:
9.30am – 10.00am Cofrestru, te a choffi
10.00am – 10.15am Croeso a Gosod y Naws
Ansicrwydd bwyd: 10.15am – 11.30am
Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Dr Neil James, Deep End Cymru
Cleide Correia, Banc Bwyd Merthyr Cynon
11.30am – 11.45am Seibiant gyda lluniaeth
Rhenti cymdeithasol a fforddiadwyedd tai: 11.45am – 1.00pm
Jemma Bere, tenant sy’n ymgyrchydd
Lorraine Oates, Prif Swyddog Arianol Merthyr Valley Homes
Emma Nicholas, Llais Cenedlaethol Annibynnol Tenantiaid Cymru
1.00pm – 1.45pm Cinio
Twristiaeth sy’n gweithio i gymunedau: 1.45pm i 3.00pm
Rebeca Roberts, Cynghorydd yng Ngwynedd
Chris Johnes, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
Eli Elis-Williams, Ymchwilydd Cymunedol Dyffryn Llechi
3.00pm – 3.30pm Sut alla i wneud gwahaniaeth
3.30pm Diwedd
Os ydyn ni am wneud gwahaniaeth yn y materion hyn, rhaid i ymagwedd ‘o’r brig i lawr’ gyfarfod ymagwedd ‘o’r gwaelod at y brig’ a rhoi llawer mwy o rôl i lais dinasyddion. Yn yr holl feysydd hyn, rhaid i ymddygiadau a strwythurau newid fel ein bod yn creu cyfleoedd i roi a derbyn cefnogaeth, i ddysgu oddi wrth ein lwyddiannau a methiannau, a chreu cynghreiriau cryf ac effeithiol.
I gael gwybodaeth ychwanegol ac i gofrestru, cysylltwch â:
Joanna Hatch (née Quinney-Adams) ar joq@foundationaleconomy.wales
Lleoliad: https://maps.app.goo.gl/ZpUSjfAuuZSBRqZ59
#GwneudGwahaniaeth