Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu mwy a mwy o bryder am ledaeniad damcaniaethau cynllwyn a’u niwed posibl mewn cymdeithasau ar draws y byd. Fel y mae digwyddiadau fel pandemig Covid-19 a therfysgoedd Capitol yr Unol Daleithiau yn 2021 wedi dangos, gall damcaniaethau cynllwyn gyfrannu at bolareiddio, trais gwleidyddol, a thanseilio sefydliadau democrataidd.
Yn y seminar hwn, byddaf yn cyflwyno’r corff cynyddol o ymchwil academaidd ar ddamcaniaethau cynllwyn, gan edrych ar dueddiadau a dadleuon allweddol yn y maes, yn ogystal â rhai o’r mythau am ddamcaniaethau cynllwyn a’r bobl sy’n credu ynddynt. Byddaf yn dadlau y gall gwyddonwyr cymdeithasol gyfrannu at ymchwil yn y maes hwn drwy ganolbwyntio mwy ar gyd-destun a chynnwys penodol pob damcaniaeth gynllwyn, yn hytrach nag arddel safbwynt cyffredinol sy’n ystyried bod pob damcaniaeth gynllwyn yn debyg i’w gilydd. Ar ben hynny, byddaf yn dadlau y gall syniadau damcaniaethol gan haneswyr a damcaniaethwyr diwylliannol helpu gwyddonwyr cymdeithasol i gynhyrchu ymchwil gryfach ar faes cynllwynion. Byddaf yn gorffen drwy ddangos sut byddai’r dull hwn yn gweithio, drwy archwilio achos damcaniaethau cynllwyn Covid-19.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.