Adults using Lego to build a diving board

 

Mae LEGO® SERIOUS PLAY® yn ddull o ymgysylltu â phobl, eu cael i feddwl yn wahanol, a chael math gwahanol o sgwrs.

Yn y gweithdy hwn, cewch gyflwyniad hwyliog ac ymarferol i LEGO® SERIOUS PLAY®, a cyfle i adeiladu modelau yn unigol ac fel grŵp. Bydd cyfle i ymarfer dulliau cyfathrebu amrywiol, a dysgu clywed a deall eraill – a hyn oll gan ddefnyddio LEGO®!

Dyma gyfle i brofi drosoch eich hun sut y gall LEGO® Serious Play® ddatgloi cyfranogiad a deialog ddyfnach mewn gweithdai, cyfarfodydd ac yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r gweithdy yma ar agor i bawb – nid oes angen unrhyw sgiliau LEGO®!

I gofrestru, anfonwch e-bost at Anwen (awe@aber.ac.uk).