9:30 – te, coffi a chofrestru; 10-12 gweithdy

Bydd y gweithdy hwn, a gynhelir gan ymchwilwyr WISERD, yn trin a thrafod ymgyrchoedd undebau llafur a ddefnyddiodd y cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol yn ddiweddar.

Mae’r gweithdy wedi’i baratoi ar gyfer swyddogion ac ymgyrchwyr undebau llafur sydd am gael gwell dealltwriaeth o sut i ddefnyddio cyfyngau cymdeithasol yn strategol wrth drefnu undeb llafur.

Bydd y gweithdy dwy awr o hyd yn cynnwys:

  • Dadansoddiad o sut cafodd y cyfryngau cymdeithasol eu defnyddio yn ymgyrch diweddar McStrike.
  • Gwybodaeth am sut mae gwahanol undebau llafur yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd.
  • Gweithgareddau ymarferol sy’n trin a thrafod sut mae undebau llafur yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol.

Bydd cinio bwffe a chyfle i rwydweithio ar ôl y digwyddiad.

Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) mewn partneriaeth â TUC Cymru, sy’n trefnu’r digwyddiad hwn.