Cyflwynir gan Bernd Bonfert 

Yn rhan o amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned (CSA), mae ffermwyr ac aelwydydd lleol yn rhannu baich ariannol a ffrwyth amaethyddiaeth. O’r herwydd, mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu drwy gadwyni cyflenwi byr sy’n annibynnol ar y farchnad. Mae i hyn lawer o fanteision cymdeithasol, economaidd ac ecolegol. O ganlyniad, mae’n cyfrannu at system fwyd fwy gwydn a chynaliadwy. Yn y sesiwn hon, byddaf yn esbonio sut y gall rhwydweithiau CSA mwy ehangu’r arfer y tu hwnt i ardaloedd lleol ac ymwneud â gweithredu gwleidyddol, cyn trafod pa heriau y maent yn eu hwynebu.

Yn seiliedig ar fy ymchwil o fewn pecyn gwaith CS2, ‘Economi sylfaenol, dinasyddiaeth a mathau newydd o berchnogaeth gyffredin‘, byddaf yn cyflwyno canfyddiadau diweddar i rwydwaith CSA cenedlaethol y DU, yn ogystal â rhannu meddyliau rhagarweiniol am fy ymchwil i arferion CSA rhanbarthol yng Nghymru a Dwyrain yr Almaen.