Cyflwynwyd gan Nigel Hawtin

Cyfuniad o gyflwyniadau, trafodaethau ac ymarferion ymarferol mewn grwpiau.

Bydd y diwrnod yn cynnwys theori, wedi’i hegluro gyda chymorth enghreifftiau darluniadol, ac ymarferion fel bod y rhai sy’n bresennol yn gallu archwilio syniadau a dysgu drostynt eu hunain

Nodau

Deall sut i gyfathrebu gwybodaeth a data yn weledol

Yn ystod y gweithdy hwn byddwn yn ystyried yr holl ffactorau sy’n cael effaith ar y ffeithlun – dylunio, dealltwriaeth, cynulleidfa a llwyfan – a’r holl gamau sy’n berthnasol er mwyn cael canlyniad da

Deilliannau dysgu

  • Sut, pam a phryd i ddefnyddio ffeithlun
  • Diffinio naratif
  • Optimeiddio ffeithluniau ar gyfer gwahanol gyfryngau a chynulleidfaoedd
  • Deall rôl dylunio