Cyflwynwyd gan Dr Rachel Hurdley a Dr Katherine Quinn

Lluniwyd yr hyfforddiant i gyflwyno ymchwilwyr ac ymchwilwyr ôl-raddedig i ddefnyddio methodolegau tynnu lluniau mewn Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithasol a rhoi profiad ymarferol iddyn nhw o wneud hynny. Bydd yn rhoi trosolwg o’r defnydd o dynnu lluniau yn y gwyddorau cymdeithasol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y symudiad tuag at ‘gymdeithaseg fyw’ a dulliau ethnograffig creadigol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal â chyflwyniadau gan ymchwilwyr sydd wedi defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar dynnu lluniau, bydd yr hyfforddiant dau hanner diwrnod yn cynnwys llawer o ymarferion ymarferol tynnu lluniau mewn grŵp a sesiynau dadansoddi mewn grŵp. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i drafod y defnydd posibl o dynnu lluniau ar eu prosiectau ymchwil presennol a phosibl, naill ai yn rhan o fethodoleg dan arweiniad ymchwilydd neu’n rhan o fethodoleg gyfranogol.

Y bwriad yw y bydd yn hyfforddiant wyneb yn wyneb sy’n digwydd mewn ystafell seminar ac yn cynnwys ymarferion gwaith maes yn yr awyr agored. Bydd yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod yn olynol, 24 Mai rhwng 12 a 5pm a 25 Mai rhwng 10am a 4pm.

Nodau ac Amcanion (canlyniadau’r digwyddiad)

Erbyn diwedd y sesiwn / y ddwy sesiwn, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu:

  • Bod yn gyfarwydd â’r posibiliadau yn sgîl tynnu lluniau mewn ymchwil ym mhob cam o’r broses ymchwil (dylunio, gwaith maes, dadansoddi)
  • Meddu ar brofiad o gymryd rhan mewn sesiynau ‘gweld’ sy’n seiliedig ar dynnu lluniau mewn cyd-destun byw, ac yn meddu ar brofiad o sesiwn ddadansoddi mewn grŵp gan ddefnyddio lluniau
  • Gallu delweddu ac ail-gyflwyno eu prosiect ymchwil ar ffurf llun
  • Teimlo eu bod yn gallu ystyried tynnu lluniau’n llinyn methodolegol yn eu hymchwil presennol neu eu darpar ymchwil

Os bydd gennych chi gwestiynau, cysylltwch â: WISERD.events@cardiff.ac.uk