Cyflwynwyd gan Monika Conti (Swyddog Polisïau ac Ymchwil, EYHC)

Mae EYHC yn glymblaid o wahanol elusennau, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru sy’n rhannu’r un nod, sef dod â digartrefedd ymysg pobl ifanc i ben. Ers i ni gael ein sefydlu, mae creu gwybodaeth am ddigartrefedd ymysg pobl ifanc ochr, yn ochr â’r rhai sydd â phrofiadau bywyd, wedi bod yn rhan hollbwysig o’n gwaith.

Mae ein prosiect ymchwil diweddaraf yn ymchwilio i ddigartrefedd ymysg pobl ifanc drwy lens niwroamrywiaeth. Yn y cyflwyniad hwn, byddwn yn rhannu canfyddiadau allweddol yr ymchwil, gan gynnwys rhoi trosolwg o’n dulliau ymchwil gyfranogol sy’n cynnwys defnyddio ymchwil cymheiriaid. Ar ôl hynny, bydd sesiwn holi ac ateb.

Mae’r seminar ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn digartrefedd ymysg pobl ifanc, niwroamrywiaeth, newid y system a dulliau cyfranogol.

Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom