Dr Bethany Simmonds o (Brifysgol Aberystwyth) fydd yn cyflwyno’r seminar amser cinio ar-lein hwn.

Datgelodd y pandemig colled hawliau dynol ar gyfer unigolion oedrannus ac anabl, gan dynnu sylw at y tebygrwydd pwysig rhwng y ddau grŵp hyn. Fel cymdeithasegwyr â phrofiad personol a phroffesiynol o heneiddio ac anabledd, roeddwn i a’m cyd-olygydd, Dr Maria Berghs (Prifysgol de Montfort) yn bryderus gyda’r nifer o fannau ‘diofal’ o’r fath (Rogers, 2017) ac yn awyddus i edrych i mewn i’r hyn y medrwn ni ei ddysgu. O ystyried trywydd da’r boblogaeth gyffredinol tuag at ddisgwyliad oes gynyddol, nid oes digon wedi’i ysgrifennu am brofiadau o heneiddio gydag anabledd a datblygu anabledd wrth heneiddio. Mae’r papur seminar hwn yn adrodd ar ganfyddiadau casgliad newydd o bum papur a gyhoeddwyd ar y pwnc, sy’n dod ag ystod o safbwyntiau epistemolegol a methodolegol ynghyd i ddeall sut i leoli gwell dyfodol gofal (Simmonds a Berghs, 2024). Mae’r casgliad yn dangos pa mor hawdd gall atal ‘moeseg gofal’, gan ganiatáu i fannau (a chyfnodau) diofal ymledu (Rogers, 2017). Gan ddangos bod bregusrwydd yn gyfnewidiol ac yn ddirfodol, fe wnaeth y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol ynghylch y pandemig greu grwpiau ansicr a fethwyd wedyn mewn gofal (Simmonds, 2021). Mae’r papurau hyn yn cynnig cipolwg epistemolegol a methodolegol gwreiddiol manwl, gan dystiolaethu bod angen ‘moeseg ofal gwrth-ableddol a gwrth-oedraniaethol’ er mwyn sicrhau hawliau ac urddas dynol mewn cymdeithas.

Os hoffech chi gael gwahoddiad i’r seminar hwn, anfonwch e-bost at WISERD.events@cardiff.ac.uk