Gan ddefnyddio amrywiol ffynonellau data, gyda llawer ohonynt heb eu cyhoeddi, mae Annette Lareau yn cyflwyno ymchwil ansoddol sy’n datgelu’r ffyrdd cynnil y gall gwybodaeth ddiwylliannol fod yn ganlyniadol mewn siwrneiau symudedd. Mae ei data hydredol o’i llyfr Unequal Childhoods yn amlygu all gwybodaeth oedolion ifanc am ddeall rhwystrau sefydliadol, yn enwedig mewn addysg uwch, yn gallu esgor ar ganlyniadau allweddol. Mae llyfr diweddar gyda Blair Sackett, We Thought It would be Heaven: Refugees in an Unequal America, yn dangos fel y bu i sefydliadau wneud camgymeriadau fel mater o drefn gan lesteirio llwybrau ffoaduriaid yn Philadelphia o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo.  Maent yn dangos effaith y camgymeriadau hyn, yn enwedig wrth gyflwyno gwasanaethau, ac fel yr oedd gwybodaeth ddiwylliannol yn hanfodol i ddatod y “clymau” sy’n codi. Tra bo gwaith helaeth wedi cofnodi rôl holl bwysig adnoddau perthnasol, mae Annette Lareau yn tynnu ein sylw at y ffyrdd cymhleth y mae gwybodaeth ddiwylliannol sy’n seiliedig ar ddosbarthiadau yn creu rhwystrau a chyfleoedd i sampl amrywiol o ran hil o bobl ifanc o wahanol ddosbarthiadau.

Mae Annette Lareau yn Athro Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Pennsylvania. Yn 2024, mae’n Athro-Gymrawd Ymchwil drwy Leverhulme yn Adran Gymdeithaseg Ysgol Economeg Llundain. Mae wedi ennill gwobrau gyda’i llyfrau Unequal ChildhoodsHome Advantage, and Listening to People. Gyda Blair Sackett, ysgrifennodd We Thought It Would be Heaven: Refugees in an Unequal America (University of California Press). Ar hyn o bryd, mae’n gwneud astudiaeth o fendithion a heriau cyfoeth i deuluoedd. Mae Annette Lareau yn Gyn-lywydd ar Gymdeitnas Gymdeithasegol America.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.