Bydd y digwyddiad hwn yn dod â sefydliadau cymdeithas sifil Roma, Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Ewrop ynghyd gydag academyddion, llunwyr polisïau, ac aelodau o’r gymuned i glywed a thrafod profiadau Roma, Sipsiwn a Theithwyr yn Ewrop. Mae’r digwyddiad hwn yn amlygu profiadau sefydliadau cymdeithas sifil Roma a bydd yn cynnwys arddangosfa sain/clywedol a ddyluniwyd i dynnu sylw at rai o’r lleisiau yr ydym wedi’u recordio yn ein hymchwil yn ogystal â dangos ffilm a chynnal dau ddiwrnod o drafodaethau.Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys prif areithiau, trafodaethau mewn grwpiau a gweithdai. Bydd hefyd yn myfyrio ar ddwy flynedd o ymchwil a ariannodd Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a archwiliodd Roma Tsiec a Groegaidd, a sefydliadau cymdeithas sifil Sipsiwn, Roma a Theithwyr y DU.Yn rhan o’r digwyddiad, cawn glywed gan Dr Adrian Marsh, y pwnc i’w gadarnhau a gan yr Athro Margaret Greenfields am adduned GTRSB i AU i oresgyn ffactorau sy’n rhwystro Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn ( Showmen) a phobl sy’n byw mewn cychod (Boaters) rhag cymryd rhan mewn Addysg Uwch.

Byddwn hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan amrywiaeth o fudiadau cymdeithas sifil Roma Ewropeaidd a llunwyr polisïau sydd â’r dasg o gefnogi cymunedau GRTSB yng Nghymru mewn dwy drafodaeth mewn grwpiau. Yn ogystal, bydd Dr Adrian Marsh yn arwain gweithdy sy’n cynnwys sefydliadau cymdeithas sifil Roma, Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Ewrop, llunwyr polisïau ac academyddion.