Cyflwynir gan Aaron Thierry (Prifysgol Caerdydd)
Er bod miloedd o sefydliadau addysg uwch (SAU) wedi cyhoeddi datganiadau Argyfwng Hinsawdd, mae’r rhan fwyaf o academyddion yn parhau i weithredu yn unol â ‘busnes fel arfer’. Fodd bynnag, mae diffyg gweithgarwch o’r fath yn cynyddu’r risg o effeithiau hinsawdd mor ddifrifol fel y byddant yn bygwth dyfalbarhad cymdeithas gyfundrefnol, ac felly Sefydliadau Addysg Uwch eu hunain. Mae’r seminar hwn yn archwilio pam mae bwlch ymarfer gwybyddol camaddasol yn parhau ac yn gofyn pa gamau y gallai aelodau o Sefydliadau Addysg Uwch eu cymryd i actifadu’r academi.
Gan dynnu ar fewnwelediadau o seicoleg hinsawdd a chymdeithaseg, dadleuwn fod proses o wadu ‘cyfundrefnol gymdeithasol’ yn bodoli o fewn prifysgolion ar hyn o bryd, gan arwain academyddion i brofi cyflwr o ‘realiti dwbl’ sy’n atal teimladau o atebolrwydd ac asiantaeth, ac mae hyn yn hunan-orfodi trwy gynhyrchu ‘anwybodaeth luosogaidd’. Rydym yn dadlau ymhellach bod y prosesau hyn yn cynnal hegemoni diwylliannol ‘busnes fel arfer’ a bod hyn yn cael ei waethygu gan neo-ryddfrydiaeth gynyddol prifysgolion modern. Bydd dianc rhag y deinamegau hyn yn gofyn am ymdrechion bwriadol i dorri tabŵs, trwy sgyrsiau gonest am yr hyn y mae ymateb i argyfwng hinsawdd yn ei olygu i werthoedd a nodau craidd prifysgolion – ac academyddion unigol.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260