Cyflwynir gan Bertie Russell.
Wrth ystyried y strategaethau sy’n angenrheidiol i adnewyddu’r economi sylfaenol, mae’r Economi Sylfaenol Gyfunol yn awgrymu na fydd newid sylweddol yn debygol oni bai bod gwleidyddiaeth newydd o ffurfio cynghreiriau sy’n cynnwys sefydliadau hybrid, lle mae llywodraeth ranbarthol neu leol, sefydliadau canolog a busnesau’n gweithio gyda’i gilydd (2018: 155).
A hithau’n cyfeirio at ymchwil sy’n sail i adroddiad diweddar i’r felin drafod Common Wealth, nod y sesiwn hon yw cyflwyno dull arloesol o greu sefydliadau hybrid o’r fath – Partneriaethau Cyhoeddus-Cyffredin. Bydd y sesiwn yn ystyried rôl Partneriaethau Cyhoeddus-Cyffredin, canlyniad arloesi i’r eithaf (Unger 2015), sy’n creu cysylltiad rhwng arloesi ar sail lleoedd a sicrhau newid systemig ehangach.