Cyflwynir gan Yr Athro Sally Power (Prifysgol Caerdydd)
Bydd y seminar hon yn cyflwyno dadansoddiad rhagarweiniol o ddata o brosiect Cymdeithas Sifil WISERD ar ‘Nawdd, yr elît a chysylltiadau pŵer’. Mae’n edrych ar y berthynas gymhleth rhwng cymdeithas sifil, anghydraddoldeb cymdeithasol a chenedligrwydd trwy ystyried yr hyn sy’n cymell pobl elitaidd sy’n byw yng Nghymru wrth iddynt geisio gwirfoddoli fel ymddiriedolwyr a noddwyr yn ystod eang o elusennau Cymreig. Cyfwelwyd bron i 60 o ymddiriedolwyr, ac mae pob un ohonynt yn mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus a dylanwadol mewn busnes, gwleidyddiaeth neu wasanaeth cyhoeddus. Mae eu naratifau’n datgelu cymhellion amrywiol, ond yn amlwg y tu mewn iddynt mae’r awydd i ‘roi rhywbeth yn ôl’, ac nid yn unig i gymdeithas yn gyffredinol ond i Gymru yn arbennig. Tra bod eu hawydd i ‘roi’n ôl’ yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o’u sefyllfa freintiedig eu hunain, gellir ystyried eu hymrwymiad i Gymru fel ymateb i oruchafiaeth hanesyddol a chyfredol y wlad gan Loegr, yn ogystal ag etifeddiaeth o anghydffurfiaeth a chymuned. Mae’r papur yn cloi drwy drafod goblygiadau’r naratifau hyn ar gyfer deall nodweddion penodol ‘daearyddiaethau cyfrifoldeb’, cymdeithas sifil a chenedligrwydd.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.