Mae WISERD yn falch i hysbysu fod y Cymdeithasegydd Diwylliannol, yr Athro Michèle Lamont o Brifysgol Harvard, yn ymweld â’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yng Nghaerdydd ar 24-25ain Mawrth 2025, fel rhan o’i Hathraw Gwadd Leverhulme.

Mae’r Athro Lamont yn cael ei chydnabod a’i chanmol yn rhyngwladol am ei gwaith ar foesoldeb, ffiniau grwpiau, ac anghydraddoldeb. Mae hi wedi mynd i’r afael â phynciau fel urddas, parch, stigma, hiliaeth, a sut rydym yn gwerthuso gwerth cymdeithasol ar draws cymdeithasau. Astudiodd gyda Pierre Bourdieu ac eraill ym Mharis yn gynnar yn yr wythdegau, a daeth i’r amlwg yn gyflym fel arloeswr yn yr astudiaeth o gymdeithaseg ddiwylliannol a chymharol, gan helpu i ddiffinio’r meysydd hyn fel yr ydym yn eu hadnabod heddiw. Mwy o wybodaeth o’i gwefan yma.

Bydd yr Athro Lamont yn rhoi sgwrs ar noswaith y 24 ain Fawrth 2025 yn Ystafelloedd Pwyllgor Morgannwg a Gweithdy fore trannoeth y 25 ain Mawrth, hefyd yn yr Ystafelloedd Pwyllgor. Mi fydd manylion o’r digwyddiadau a gwahoddiad calendr yn ddilyn.

Cysylltwch a WISERD@cardiff.ac.uk am fwy o wybodaeth.