Mae WISERD a Rhwydwaith Ymchwil Gwleidyddiaeth a Llywodraethu Prifysgol Abertawe yn eich gwahodd i gwrs pedwar diwrnod o hyd AM DDIM sy’n trafod Dulliau Meintiol dan arweiniad yr Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Nottingham, Dr Kevin Fahey, rhwng dydd Mawrth 8 Gorffennaf a dydd Gwener 11 Gorffennaf. Bydd yn cael ei gynnal ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe. DIGWYDDIAD WYNEB YN WYNEB YN UNIG YW HWN.
Bydd y cwrs am ddim hwn yn cynnwys tair awr yn y bore, awr ginio (wedi’i harlwyo), ac ail sesiwn dair awr bob dydd, gyda darlithoedd, arddangosiadau ymarferol, a phrofiadau ymarferol a gwaith grŵp ym mhob sesiwn.
Byddwn ni’n ymdrin â’r canlynol:
– Argymhellion ar sut i ddysgu dulliau meintiol
– Ystyried dulliau yn iaith
– Cyflwyno R, Quarto a sut i ysgrifennu côd y gellid ei atgynhyrchu
– Nodiant, Algebra, Termau Ystadegol Allweddol
– Theorem Terfan Ganolog, Hapnewidynnau, Profi Rhagdybiaethau Deunewidyn
– Modelau Llinol a’u Rhagdybiaethau
– Atchweliad swm lleiaf sgwariau arferol (OLS)
– Sut i ymdrin â thorri swm lleiaf sgwariau arferol
– Amcangyfrif Tebygoliaeth Mwyaf
– Logit, Logit Trefnedig, Binomialau Negyddol
– Nodau dod i gasgliadau
– Casgliadau Achosol Arsylwadol
– Modelu Rhagfynegol
– Delweddu Data
a mwy!
Dyma gwrs hyfforddi HANFODOL i unrhyw un sy’n gwbl newydd i ddulliau meintiol ac sydd â diddordeb mewn dysgu am hanfodion y ddisgyblaeth hon neu’r sawl sydd am loywi eu sgiliau. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio’n gyfannol i bawb. Fydd dim cyfle gwell i drin a thrafod dulliau meintiol mewn cymaint o fanylder yn rhad ac am ddim.
Mae’r cwrs hwn yn addas i bawb, boed nhw ar ddechrau eu gyrfa neu’n ymchwilydd profiadol. Rhannwch y gwahoddiad i’r digwyddiad hwn gydag unrhyw un yn eich rhwydwaith.
Gair am Kevin:
Athro Cynorthwyol Gwleidyddiaeth yn Ysgol Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol Prifysgol Nottingham yw Kevin Fahey ac roedd yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd cyn hynny. Astudiodd ei PhD ym Mhrifysgol Talaith Florida yn 2017. Mae ganddo ddiddordeb mewn cymhwyso dulliau ymchwil meintiol at gwestiynau sylweddol, ac mae’n cynnal gwaith rhyngddisgyblaethol parhaus mewn troseddeg, seicoleg a gweinyddiaeth gyhoeddus. Canolbwynt ei waith ymchwil sylweddol yw sefydliadau deddfwriaethol a thrin a thrafod effeithiau sefydliadau a diwygiadau sefydliadol ar ymddygiad ffigurau gwleidyddol elît, tra bod ei ddiddordebau ymchwil ychwanegol yn canolbwyntio ar ganlyniadau gwleidyddol consgripsiwn a llwyddiant etholiadol deddfwyr benywaidd. Mae ei ymchwil wedi’i gyhoeddi yn Legislative Studies Quarterly, Electoral Studies, a State Politics & Policy Quarterly, yn ogystal ag ymchwil ryngddisgyblaethol a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn European Child & Adolescent Psychiatry a’r Journal of East Asian Studies.