Mae ymarfer celf gyfoes drochol yn y gymuned wastad wedi wynebu cyfyng gyngor moesegol ac athronyddol, nid lleiaf pan fydd partneriaid niferus yn dymuno cyd-gynhyrchu a churadu. Gwahoddwn chi yn gynnes i ymuno â ni yn ein CPRN yn Sain Ffagan, lle byddwn ni’n archwilio cwestiynau gonestrwydd ymchwil, cyfranogiad cymunedol a chelf. Mae’r CPRN arbennig hwn yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yr ESRC, mewn cydweithrediad ag ArtStation ac Amgueddfa Cymru.
Gwireddwyd gosodwaith Anchor Peoples drwy ymdrechion cyfunol Artist, Curadur, Academydd ac Actifydd Cymunedol, yn cydweithio gyda dau gorff angor cymunedol blaenllaw yn ne Cymru. Wrth ddatblygu’r gwaith celf, mae pob un o’r pedwar parti wedi ceisio gosod eu setiau eu hunain o werthoedd ac uniondeb gweithrediadol, sydd ar adegau wedi arwain at densiynau creadigol a thrafodaethau tanbaid am, er enghraifft, ddiben, proses, awduraeth, perchnogaeth ac yn y pen draw, gonestrwydd.
Byddwn yn dechrau gydag esboniad o’r modd y daeth y gosodwaith (y bydd cyfle i chi ei weld ar y dydd) â’r materion hyn i’r golwg ac yn trafod sut mae’r rhain yn taro tant gyda phrofiadau aelodau CPRN eu hunain. Bydd hyn yn gefndir beirniadol i’r sesiwn olaf ar rôl a statws gwrthrychau o’r fath mewn lleoliad fel Amgueddfa Werin Sain Ffagan, yn eu rôl ddeuol fel gwaith celf a ffenomena cymdeithasol.
Gwahoddwn chi i ymuno â ni wrth i ni drafod y nodweddion beirniadol sy’n effeithio ar ddilysrwydd celf mewn ymchwil; rôl offeryniaeth a goblygiadau i werthoedd cynhyrchu celf; ystyriaethau ‘ansawdd’ a tharddiad y gelfyddyd a gynhyrchir pan gaiff ei hymrwymo i fodel cyfranogiad cymunedol. Gwahoddwn y CPRN hefyd i ystyried sut gall gweithiau celf o’r natur hon gael lle yng nghanon casgliadau amgueddfa ac archifau. Pan fydd gonestrwydd artistig ac ystyr cysyniadol y gwaith yn gorwedd mor gadarn mewn datblygu cymunedol ac effaith cymdeithasol, ydy celf gyfoes a modelau ac arferion caffael amgueddfa prif ffrwd yn gallu cynnwys a gwerthfawrogi’r gwerth anghyffyrddadwy hwn o fewn mesuriadau esthetig cyfredol?
Darperir cinio yn dilyn y digwyddiad.