Mae Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru yn falch o gyhoeddi seminar ymchwilydd gyrfa cynnar ac ôl-raddedig rhwng 10.00 – 11.30 a fydd yn cael ei gynnal arlein ar ddydd Iau 12fed o Fedi. Nod y seminar ar-lein yw darparu awyrgylch cefnogol i ymchwilwyr rannu eu syniadau ar waith drafft a derbyn sylwadau adeiladol. Bydd pob cyfrannwr yn rhoi cyflwyniad 20 munud o hyd wedi’i ddilyn gan sesiwn H+A 20 munud o hyd.

Cyflwyniad 1: Understanding Racial Trauma in Wales: Intersectionality in a Sectional Policy Landscape, Dr Joanne Hopkins (Ysgolhaig Gwadd, Prifysgol Wrecsam)

Cyflwyniad 2: ‘ESOL tutors’ perspectives on literacy and language difficulties among forced migrants’ learners and the impact on their progress in Wales, Zaina Aljumma (Prifysgol Abertawe)

Cadeirydd: Dr Catrin Edwards (Prifysgol Aberystwyth)

Sefydlwyd Ymchwil Mudo Cymru ym mis Gorffennaf 2021 i annog cydweithio rhwng ymchwilwyr ar draws sefydliadau yng Nghymru i ddarparu ffocws cenedlaethol ar gyfer ymchwil mudo a dwyn ynghyd academyddion, rhanddeiliaid ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda mudwyr ar faterion sy’n effeithio ar fudwyr.