Cyflwynir gan Tommaso Reggiani

Rydyn ni’n astudio effaith treiddiad band eang ar gyfalaf cymdeithasol yn y DU. Mae ein strategaeth empirig yn manteisio ar nodwedd dechnolegol yn y seilwaith telathrebu a arweiniodd at gryn amrywio yn safon mynediad at y Rhyngrwyd mewn aelwydydd. Mae cyflymder y cysylltiad yn y cartref yn dirywio’n gyflym wrth i linell y defnyddiwr bellhau o nod y rhwydwaith sy’n gwasanaethu’r ardal. Gan uno gwybodaeth am dopoleg y rhwydwaith â data hydredol wedi’i godio’n ddaearyddol am gyfalaf cymdeithasol unigol rhwng 1997 a 2017, rydyn ni’n dangos bod mynediad i’r Rhyngrwyd gyflym wedi achosi gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy’n ymgysylltu’n sifig a gwleidyddol. Yn gyffredinol, mae ein canlyniadau’n awgrymu bod treiddiad band eang wedi mygu sawl dimensiwn ar gyfalaf cymdeithasol.

 

Geraci, Nardotto, Reggiani, Sabatini (2022) “Broadband Internet and social capital” — Journal of Public Economics, Cyfrol 206, https://doi.org/10.1016/j.jpubeco.2021.104578

https://www.cardiff.ac.uk/news/view/2598552-high-speed-internet-led-to-a-decline-in-civic-and-political-engagement,-research-shows

 

Os ydych chi’n westai allanol, cysylltwch â ni WISERD.Events@caerdydd.ac.uk i gadarnhau a oes lleoedd ar gael.