Cyflwynir gan Paul Chaney

Mae’r seminar hwn yn amlinellu canfyddiadau dwy astudiaeth newydd. Mae’r astudiaeth gyntaf yn dadansoddi effaith pandemig COVID-19 ar y sefyllfa hawliau dynol mewn chwe gwlad yn Nwyrain Affrica. Mae’r dadansoddiad yn amlygu gwybodaeth ‘sefyllfa-benodol’ y gymdeithas sifil am sut mae’r argyfwng byd-eang, gan gynnwys ymateb amherffaith llywodraethau yn y rhanbarth i’r pandemig, wedi gwaethygu ymyriadau â hawliau dynol. Mae patholegau hawliau allweddol yn cynnwys gwahaniaethu, gwrthod yr hawl i ofal iechyd a nawdd cymdeithasol digonol a chynnydd yn nifer yr achosion o gam-drin domestig, tlodi a defnyddio llafur plant. Yn wyneb y pandemig, mae llywodraethau wedi cymryd camau awdurdodaidd i atal beirniadaeth gan y gymdeithas sifil ac amddifadu unigolion o ryddid mynegiant a’r rhyddid i ymgysylltu. Mae’r ail astudiaeth yn archwilio sut mae sefyllfa hawliau dynol pobl ag albinedd – cyflwr genetig anghyffredin lle mae pigmentiad gwallt, croen a llygaid unigolion yn wannach neu ar goll – yn cael ei hesgeuluso yn chwech o wledydd Affrica Is-Sahara. Mae’r canfyddiadau’n dangos ymyriadau difrifol a pharhaus â hawliau dynol pobl ag albinedd, gan gynnwys erledigaeth, stigma a llofruddiaeth mewn llawer man oherwydd gwahaniaethu, ofergoeliaeth a dewiniaeth. Mae hyn o arwyddocâd ehangach oherwydd yr angen i wella camau gweithredu llywodraethau, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o’r broblem a monitro rhwymedigaethau gwledydd yn rhan o gytuniad y Cenhedloedd Unedig yn llymach.

 

Os ydych chi’n westai allanol, cysylltwch â ni WISERD.Events@caerdydd.ac.uk i gadarnhau a oes lleoedd ar gael.