Cyflwynir gan Paul Chaney.

Mae’r seminar hon yn rhoi trosolwg o ddau ddarn o ymchwil gan CS2 WP1.2 ‘Meysydd newydd ar gyfer ehangu mewn modd dinesig: bodau dynol, anifeiliaid a Deallusrwydd Artiffisial’. Mae’n ceisio mynd i’r afael â’r cwestiwn cyffredinol: ‘Sut ac i ba raddau mae maniffestos etholiadol y Pleidiau Gwleidyddol – a deisebau cyhoeddus i San Steffan – yn adlewyrchu gofynion y gymdeithas sifil am bolisïau er lles anifeiliaid’? Mae’r rhan gyntaf yn trin a thrafod y pleidiau’n gwleidyddoli amddiffyn bywyd gwyllt, gyda dadansoddiad o ddisgwrs maniffestos yn etholiadau ledled y DU rhwng 2001–2019. Mae’r ail yn ymwneud â chynrychiolaeth sylweddol o rywogaethau annynol mewn busnes seneddol. Mae’n cymhwyso Persbectif Swyddogaethau Deddfwriaethol Leston-Bandeira i set ddata o 2,500 o ddeisebau cyhoeddus ar les anifeiliaid, a gyflwynwyd dros dri thymor senedd y DU. Ymhlith llu o ganfyddiadau, mae’r dadansoddiad yn dangos bod y symbiosis rhwng bodau dynol a rhywogaethau eraill yn gynyddol annatod wrth wleidyddiaeth y DU. Gwelir hwn yn ei amlygrwydd cynyddol mewn ymateb i ofynion cymdeithas sifil.

Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom.