Mae Cymru’n wynebu nifer o heriau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol. Bydd dyfodol y wlad yn dibynnu i raddau helaeth ar ddod o hyd i ffordd ymlaen yng nghyd-destun COVID-19, Brexit, datganoli rhagor o bwerau, y sgwrs gynyddol ynghylch annibyniaeth, nodau datblygu cynaliadwy a lles cenedlaethau’r dyfodol.
Ymunwch â Carwyn Jones AS (cyn Brif Weinidog Cymru), Auriol Miller (Cyfarwyddwr Sefydliad Materion Cymru), a Rachel Minto (Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd) wrth iddynt ddadansoddi’r llwybrau a’r blaenoriaethau fydd yn nodweddu gwleidyddiaeth a pholisi yng Nghymru dros y degawd nesaf, gyda chyfle i ychwanegu at y drafodaeth gyda’ch cwestiynau chi.
Cyflwynir y digwyddiad hwn ar y cyd gan WISERD (Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru) a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.